Ymunwch â ni ar gyfer ein Sioe Deithiol i Gyflogwyr CITB yr hydref hwn
28ain Medi i 8fed Tachwedd

About Section Image

Canfyddwch sut y gall CITB eich cefnogi

Mae’r sioeau teithiol ar gyfer cyflogwyr sydd wedi cofrestru â CITB a byddant yn cwmpasu ystod o gymorth sydd ar gael gan CITB. Byddwch yn clywed yn uniongyrchol gan gwmnïau adeiladu am sut y maent wedi gweithio gyda ni i fynd i’r afael â heriau sgiliau. Byddwch yn clywed gan ein timau rhanbarthol am y canlynol:

  • Mentrau a gwasanaethau lleol sydd ar gael
  • Cyfeiriad CITB yn y dyfodol

Dweud eich dweud ar ein Drafft-Gynigion Lefi

Byddwn yn gofyn am eich barn ar Ddrafft-Gynigion Lefi CITB yn y digwyddiad fel rhan o’n hymgynghoriad cyn y Consensws yng Ngwanwyn 2024. Byddwn yn esbonio’r opsiynau a byddwch yn gallu pleidleisio ar eich dewis dewisol a rhoi adborth i ni ar y cynigion a’n cynlluniau i ddiwygio’r amserlen ar gyfer casglu taliadau Lefi. Bydd eich adborth yn y cyfarfodydd yn dylanwadu’n uniongyrchol ar y Cynigion Lefi Terfynol a gyflwynir i ddiwydiant yn ystod Consensws.

Bydd yr agenda lawn ar gyfer pob sioe deithiol yn cael ei chyhoeddi ym mis Medi.

Os oes gennych chi fwy i’w ddweud – arhoswch ar ôl wedi i’r prif ddigwyddiad ddod i’w ben

Ym mhob lleoliad byddwn yn cynnig cyfle i fynychwyr aros ar ôl a chael trafodaeth fanylach am sgiliau, hyfforddiant a heriau recriwtio. Os oes gennych ddiddordeb mewn cael sgwrs lawnach am yr heriau yn y sector – ymunwch â ni.

Cwrdd â’r tîm

Byddwch yn gallu cwrdd â staff CITB a all eich cefnogi gydag ymholiadau penodol am eich busnes neu gofrestriad CITB, prentisiaeth neu gymorth i newydd-ddyfodiaid neu eich cyfeirio at rwydweithiau lleol fel rhwydweithiau cyflogwyr neu grwpiau hyfforddi.

Bydd stondinau’r farchnad ar gael drwy gydol y digwyddiad, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y budd llawn ohonynt drwy sgwrsio a gofyn y cwestiynau yr hoffech cael eu hateb yn ystod yr egwyl goffi a thros ginio.

Dyddiadau a lleoliadau

Eleni, byddwn yn y lleoliadau canlynol ar y dyddiadau isod:

Sesiynau Ar-lein

Os na allwch wneud un o’r digwyddiadau, ein sesiynau ar-lein yw:

  • Lloegr a’r Alban – dydd Mawrth 8fed o Dachwedd, 10am – 11.30am
  • Cymru – dydd Gwener 8fed o Ragfyr, 10am – 11.30am

Cymerwch ran

Os ydych chi’n gyffrous ac yn edrych ymlaen at fynychu Sioe Deithiol i Gyflogwyr, cymerwch ran a rhannwch eich profiadau digwyddiad ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #SioeDeithiolIGyflogwyr – bydd y postiadau diweddaraf yn ymddangos isod!

Nid oes unrhyw trydariadau ar hyn o bryd.

CYSWLLT

Glasgows